Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Chwefror 2018
Amser:
09.46 -
12.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4615
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Isobel Garner, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.1 Trafododd y Pwyllgor ymhellach yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer yr enwebiad i fod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunodd i ymgynghori â chyrff sy'n cynrychioli buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag adran 2(3) Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
3.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn cynnal ei ymchwiliad ynghylch paratoadau ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chytunodd i ystyried y cylch gorchwyl mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.1 Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru sesiwn wybodaeth i'r Pwyllgor ar gasgliadau modelu diwygiedig y Sheffield Alcohol Research Group ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2018.